Ein wythnos brysur! / Our busy week!
18/05/2018
Rydym wedi bod yn brysur iawn eto'r wythnos hon, ar ddydd Llun fe aethom ar helfa trychfilod o gwmpas yr ysgol, llwyddom ni i ddod o hyd i bry cop, Pili pala a mochyn y coed, ond yn anffodus nid llawer arall, hefyd yr ydym wedi bod yn gwylio ein lindys yn y gobaith mi fyddant nhw yn troi i fili pala cyn hir, rydym hefyd wedi bod yn cadw llygad agos ar ein penbyliaid, yr ydym yn gobeithio y bydden nhw'n frogaod cyn hir! Yna ar ddydd Mercher, roeddem yn lwcus iawn daeth 'A & S animal encounters' i'r ysgol a daethon nhw a ffrindiau gyda nhw i gwrdd â ni.
Daethon nhw ychydig o drychfilod gwahanol i ni gwrdd. Roeddwn ni mor gyffrous i gwrdd â nhw i gyd; fe wnaethon ni gwrdd â chwilod duon, miliped, mantis gweddïo, a tharantela! Un mawr iawn oedd hi! Roedd rhai ohonom yn dal rhai o'r trychfilod, roedd eraill yn cyffwrdd â hwy ac roedd eraill yn edrych ond roeddem i gyd yn mwynhau cwrdd â'r bwystfilod bach!
We have been very busy again this week, On Monday we went on a mini beast hunt around the school, we managed to find a spider, butterfly, and woodlice, but not much else unfortunately, we have been watching our caterpillars grow and hopefully soon turn into butterflies, and also we have been keeping a close eye on our tadpoles which we are hoping will be frogs soon! Then on Wednesday we were very lucky as 'A&S animal encounters came to the school and brought a few friends along with them to meet us.
They brought a few different mini beasts for us to meet. We were so excited to meet them all; we met a hissing cockroach, a millipede, praying mantis, and a tarantula! A very big one! Some of us held some of them, others touched them and others just had a look but we all enjoyed meeting the mini beasts!