Ein hanner tymor brysur/ Our busy half term
22/02/2019
Tymor y Gwanwyn
Mae hanner tymor yma wedi bod yn un brysur iawn i ni yn y meithrin. Rydyn ni wedi llwyddo i ddysgu am y gaeaf, wrth ddarllen straeon Sioni rhew ac un noson oer yn y parc, rydyn ni wedi cael cyfle i ddatblygu nifer o sgiliau gwahanol wrth gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau hwyl. Rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn tymor yma i gael cyfle i chwarae yn yr eira, blasu bwyd Tsieineaidd wrth ddathlu blwyddyn newydd Tsieineaidd, bwyta brecwast yn ein pyjamas a chwrdd â Gwyn y draenog. Rydyn ni wedi mwynhau ac yn barod am fwy o brofiadau hwyl ar ôl hanner tymor.
Spring Term
This half-term has been very busy for us in the nursery. We've have learnt all about the winter, by reading Sioni Rhew and One cold night in the park, we have had the opportunity to develop a number of different skills while taking part in a number of fun activities. We've been lucky this season to have had a chance to play in the snow, taste Chinese food while celebrating Chinese new year, eat breakfast in our pyjamas and meet the Gwyn the hedgehog. We have enjoyed this past half term and are ready for more fun experiences after half term. Below are a few pictures of us enjoying these experiences.