Mae 24 ohonom ni yn y dosbarth. Miss Jenkins a Mrs Brill sy'n gweithio gyda ni. Rydym yn ddosbarth brwd, egnïol a hwylus sy'n mwynhau dysgu sgiliau newydd yn enwedig gan ddefnyddio technolegau diweddar a dysgu tu allan! Rydyn ni'n mwynhau llawer o weithgareddau diddorol o fewn thema gyffrous gan ganolbwyntio ar sgiliau Llythrennedd, Rhifedd, Iechyd a Lles, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Dyniaethau a Chelfyddydau mynegiannol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ein blwyddyn olaf yng Nghwm Derwen ac yn barod i fanteisio ar yr holl gyfleoedd a rhoddir i ni eleni!
Mae sesiynau ymarfer corff pob ddydd Iau a dydd Gwener - plîs dewch a'ch cit.
Cyn bo hir bydd pob aelod o'n dosbarth yn cael cyfweliad i fod yn swyddog - bydd bod yn swyddog yn ein galluogi i fod yn gyfrifol, yn aeddfed ac yn fodelau rôl i'r disgyblion iau.
Mae pwyslais mawr gennym ni ar fod yn fodelau rôl eleni - byddwn yn fodeli'r defnydd o'r iaith Gymraeg, ymddygiad, parch, parodrwydd a diogelwch, ledled yr ysgol gan ddangos y ffordd mewn gwasanaethau trwy ennill bandiau "Cariad at iaith" (glas), "seren yr wythnos" (melyn) a "darllenwr yr wythnos" (oren).
There are 28 of us in Year 6. Miss Jenkins and Mrs Brill work with us. We are an enthusiastic, energetic and fun class that enjoy learning new skills, especially when using the newest technology and outside learning! We enjoy many interesting activities within our exciting themes by concentrating on Literacy, Numeracy, Health and Wellbeing, Science and technology, Humanities and Expressive Arts. We are looking forward to our last year in Cwm Derwen and hope to capitalise on all the opportunities given to us this year.
Our PE lessons are on Thursdays and Fridays. Please remember to bring your kit.
Before long, all pupils in year 6 will have an opportunity to be interviewed for a role as a prefect - being a prefect will allow us to be responsible, mature and role models for the younger pupils.
We will have a great emphasis on becoming role models this year - we will be modelling the use of the welsh language, positive behaviours, respect, readiness and safety, across the school and hope to demonstrate this during weekly assemblies with our "Cariad at iaith" (blue), "Seren yr wythnos" (yellow) and "Darllenwr yr wythnos" (orange) band winners.
.
Ein thema y tymor yma yw 'Peiriant Amser' wrth edrych ar hanes ein hardal leol. Gyda'n gilydd rydym wedi penderfynu dysgu am hanes yr ysgol a'r iaith Gymraeg. Trwy ddysgu am ein hysgol byddwn yn dysgu am sut sefydlwyd Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, beth roedd yma cyn ein hysgol a beth sydd wedi newid dros amser. Byddwn yn cydweithio gyda Blwyddyn 5 i wneud y prosiect yma ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i weld ein gwaith yn yr arddangosfa prosiect ar Ddydd Iau, y 26ain o Hydref. Ar ol hanner tymor gobeithiwn ddysgu am hanes y Siartwyr a'i daith trwy ein hardal leol.
Yn ystod gwersi Mathemateg y tymor yma, byddwn yn defnyddio rhifau hyd at filiwn a degolion i 2 lle degol gyfri ymlaen ac yn ol a threfnu rhifau. Byddwn yn defnyddio dulliau ysgrifenedig i ddatrys problemau adio, tynnu a lluosi. Byddwn yn dehongli amserlenni gan gyfrifo amser rhwng gweithgareddau. Defnyddiwn ein sgiliau mesur yn ogystal a darllen, cofnodi a dadansoddi diagram, graff bar a llinell a siart cylch.
Yn ystod gwersi iaith, byddwn yn darllen ac ysgrifennu datganiad personol, atgof o ddigwyddiadau, erthygl papur newyddion ac ymarfer sgiliau megis sillafu, treiglo, atalnodi.
Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ein trip i PGL ac edrychwn ymlaen i'n rol newydd fel swyddogion BL6.
.
Our theme this term is 'Time Machine' by looking at the history of our local area. Together, we have decided to learn about the history of our school and the Welsh language. Through learning about our school, we will learn how Ysgol Gymraeg Cwm Derwen was established, what was here before our school and what has changed over time. We will be working with Year 5 during this project and we're looking forward to you all to see our work during the exhibition on Thursday, 26th of October. After half term we hope to learn about the history of the Chartists movement and their journey through our local area.
During Mathematics lessons this term, we will be using numbers up to a million and decimal place to count forward and backwards and ordering numbers. We will use written methods to solve addition, subtraction and multiplication problems. We will be interpreting timetables by calculating time between activities. We will use our measuring skills and read, record and analyse diagrams, bar and line graphs and pie charts.
During language lessons, we will be reading and writing a personal statement, a memory of events, newspaper article and practice key skills such as spelling, mutation and punctuation challenges.
We are looking forward to our trip to PGL and we look forward to our new roles as Year 6 prefects.
O fesen fach i'r gangen uchaf / From the smallest acorn to the highest branch
Last September a list of values that represent our School was created in order to confirm the importance of the motto to every stakeholder. Thank you to all of you that participated on our very special evening.