.
Mae Miss Phillips yn ein dysgu ni gyda chymorth Mr Jones. Mae 20 ohonom yn y dosbarth ac rydyn yn ddosbarth caredig, hapus a phrysur! Rydym yn bachu ar bob cyfle i weithio tu allan a gweithio yn ymarferol wrth ddatblygu ein sgiliau o fewn y 6 maes dysgu. Fe fyddwn yn mwynhau gwersi ymarfer corff ar Ddydd Llun a Dydd Iau felly dewch a'ch cit ymarfer corff i'r ysgol ar y diwrnodau yma. Hefyd, mae croeso i chi ddod â ffrwyth i fwyta'n iach yn ystod amser chwarae bore.
Rydym yn ymdrechu i siarad Cymraeg trwy'r wythnos er mwyn ennill bandiau 'Cariad at iaith'. Trwy'r wythnos rydyn ni'n gweithio'n galed er mwyn ennill bandiau 'Seren yr wythnos' ac yn mwynhau sesiynau darllen. Bydd darllenwr yr wythnos yn cael ei ddewis ar ddydd Gwener a bydd y person yma yn derbyn band 'Dwli Darllen'.
Miss Phillips will be teaching us with Mr Jones' support. There are 20 of us in the class and we are a kind, happy and busy class! We seize every opportunity to work outside in practical activities whilst developing our skills within the 6 areas of learning. We will be engaging in P.E on Monday and Thursday so please remember to bring your kit on these days. You are welcome to bring fruit as a healthy snack during our morning playtime.
We work very hard to speak Welsh in school to win our 'Cariad at iaith' bands. Throughout the week we work hard to receive 'Seren yr wythnos' bands for our efforts and we enjoy reading sessions. Reader of the week will be chosen on Fridays and they will receive a 'Dwli darllen' band for being an outstanding reader.
Ein thema'r tymor yma yw 'Peiriant Amser' ac rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar ein hardal leol ac wedyn yn symud ymlaen at ddysgu am byllau glo ar ôl hanner tymor. Byddwn yn cydweithio gyda blwyddyn 3 ar brosiect creadigol ac yn ymweld â Big Pit er mwyn cael y profiad go iawn o sut oedd bywyd i löwr. O fewn y thema, fe fyddwn hefyd yn datblygu ein gwybodaeth wyddonol am newid mewn egni dros amser o glo i drydan.
Our theme this term is 'Time Machine' and we have decided to focus on our local area and then move on to learn about coal mines after half term. We will be working collaboratively with year 3 on a creative project and will visit Big Pit in order to experience what life was like for a miner. Within our theme, we will also be developing our science knowledge about changes in energy from coal to electricity.
O fesen fach i'r gangen uchaf / From the smallest acorn to the highest branch
Last September a list of values that represent our School was created in order to confirm the importance of the motto to every stakeholder. Thank you to all of you that participated on our very special evening.