Skip to content ↓

Choose Language

Croeso

Mae pob plentyn yn bosibilrwydd anferth - ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod unrhyw beth yn bosibl.

Rydym yn falch iawn o'n disgyblion, y safonau uchel y cyrhaeddwn, a'n cyfraniad a chyfranogiad o fewn ein cymuned. Defnyddiwn ein Gwerthoedd Ysgol i feithrin unigolion hyderus, gofalgar sy'n ein galluogi i ddod ymlaen gyda'n hunain yn ogystal ag eraill.

Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle mae disgyblion yn gyffrous i ddysgu trwy ddatblygu strategaethau creadigol a fydd yn ysbrydoli ein disgyblion i gyflawni mawredd. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o weithgareddau allgyrsiol, o gerddoriaeth i chwaraeon, sy'n caniatáu i'r plant ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Ymdrechwn i gefnogi ein disgyblion i ddatblygu fel dinasyddion cyfrifol byd-eang yr Unfed Ganrif ar hugain sydd â'r sgiliau sydd eu hangen i addasu i ofynion ein byd newidiol. Cefnogwn hwy i ddatblygu'r sgiliau i fod yn ddysgwyr annibynnol gydol oes gyda phwyslais cryf ar y sgiliau Llythrennedd a Rhifedd allweddol, ynghyd â TGCh ar draws y cwricwlwm ehangach.

Ethos:

Ein gweledigaeth yw Addysg Gyfrwng Gymraeg o radd flaenaf i bob unigolyn o fewn cymuned cynhwysol, heriol, ofalgar a theg. I sicrhau bod pob plentyn, rhiant ac athro yn byw gyda pharch, chymeradwyaeth a chyfeillgarwch.

Datganiad Ysgol:

O fesen fach i'r gangen uchaf anelwn am ragoriaeth yn ein bywydau gan ddilyn gwerthoedd yr ysgol, gan wneud ein gorau a gan osod her inni ein hunain!